2011 Rhif 1586(Cy. 182) (C.60)

Y GYMRAEG, CYMRU

Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adrannau 150(5) a 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Mae erthygl 2 yn rhestru'r darpariaethau sydd i ddod i rym ar 28 Mehefin 2011.

Hwn yw'r gorchymyn cychwyn cyntaf i gael ei wneud o dan y Mesur. Ar 28 Mehefin 2011 mae'n cychwyn adrannau a pharagraffau yn y Mesur sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau a gorchmynion penodol, gan gynnwys rheoliadau ynghylch penodi Comisiynydd y Gymraeg.


2011 Rhif 1586(Cy.182) (C.60)

Y GYMRAEG, CYMRU

Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011

Gwnaed                               25 Mehefin 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 150(5) a 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chymhwyso                                                            

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Cychwyn

2. Daw darpariaethau canlynol Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i rym ar 28 Mehefin 2011—

(a)     paragraffau 3, 7, 8, 13 ac 21 o Atodlen 1, ac adran 2(2) a (3) i'r graddau mae’r isadrannau hynny yn ymwneud â'r paragraffau hynny;

(b)     adran 138;

(c)     adran 139;

(ch) paragraffau 1, 2 a 6 o Atodlen 12, ac adran 146 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau hynny.

 

 

Leighton Andrews

 

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

25 Mehefin 2011



([1])           2011 mccc 1.